Bydd mynychu’r cwrs yn eich galluogi i ddeall y broses sy’n cynnwys y Llys a’r DVLA fel ei gilydd.
Mae hyn hefyd yn cynnwys ennill eich tystysgrif gwblhau am fynychu’r DDRC, a anfonir wedyn i’r Llys fel tystiolaeth eich bod wedi mynychu’r cwrs. Yna bydd y Llys yn hysbysu’r DVLA yn unol â hyn.
Wrth ichi nesáu at ddiwedd eich gwaharddiad, hyd yn oed gyda gostyngiad posibl gan eich bod wedi mynychu’r cwrs hwn, byddwch yn barod i ddechrau gyrru eto.
Bydd y llysoedd yn rhoi dyddiad cwblhau ichi, mae’r dyddiad hwn yn ffactor allweddol wrth amseru’ch DDRC. Gosodir y dyddiad gan yr ynadon ar yr adeg y gwneir eich gorchymyn atgyfeirio.
Y dyddiad cwblhau yw’r dyddiad mae’n rhaid i chi gwblhau’r cwrs yn cyfanrwydd yn ei erbyn. Cynghorir eich bod yn cwblhau’r cwrs gyda digon o amser yn weddill. Ni chaniateir ichi gwblhau eich cwrs ar ôl y dyddiad hwn.
Fel arfer gosodir y dyddiad cwblhau ddau fis yn gynharach na’r dyddiad y dychwelid eich trwydded ichi os ydych wedi cwblhau’r cwrs yn foddhaol. Defnyddir y cyfnod hwn o ddau fis i ganiatáu i unrhyw ohebiaeth a gweithdrefnau gweinyddol ddigwydd heb i’r elfennau hyn effeithio ar gyfnod eich gostyngiad.
Rydym yn annog eich bod yn trefnu’ch cwrs DDR IAM RoadSmart cyn gynted â phosibl. Mae cyrsiau’n tueddu i lenwi’n eithaf cyflym, po gynharaf y trefnwch gwrs, po fwyaf o opsiynau a dewisiadau sydd ar gael ichi. Mae’n rhaid i ni dynnu eich sylw at mai eich cyfrifoldeb chi yw trefnu’ch cwrs DDR mewn da bryd. Bob amser dylid ceisio osgoi trefniadau munud olaf.
Does dim awdurdod gyda’r llysoedd i ymestyn dyddiadau cwblhau, unwaith ei fod wedi’i osod ni ellir ei newid heblaw am gywiro gwallau amlwg.
Canlyniad arall o gael eich collfarnu oherwydd yfed a gyrru yw’r posibilrwydd y bydd eich premiwm yswiriant yn codi ac/neu y bydd y tâl-dros-ben gorfodol ar y polisi’n codi.
Gall yr IAM eich helpu a’ch cefnogi trwy ddarparu rhestr o ddarparwyr yswiriant nad ydynt wedi cosbi gyrwyr sydd wedi yfed a gyrru o’r blaen ac efallai sy’n cydnabod bod y DDRC o fudd ichi wrth adsefydlu a dychwelyd i yrru. Fodd bynnag, ni all yr IAM ddarparu unrhyw sicrwydd ynghylch premiymau yswiriant ac ni all ohebu gydag unrhyw yrrwr ynghylch y mater hwn gan mai cyfrifoldeb unigol yr yswiriwr neu frocer yw hwn.
Mae angen ichi wneud cais am drwydded newydd os yw’ch trwydded wedi’i chymryd gan eich bod wedi’ch gwahardd cyn y gallwch ddechrau gyrru eto.
Mae’r ffordd y byddwch yn gwneud cais arall am eich trwydded yn dibynnu p’un a ydych yn y categori o droseddwyr risg-uchel. Fe’ch dosbarthir fel troseddwr risg-uchel os cawsoch eich gwahardd:
Dosbarthir unrhyw droseddau gyrru eraill fel risg nad yw’n uchel.
Bydd y DVLA yn anfon ffurflen D27 ichi 56 diwrnod cyn bod cyfnod eich gwaharddiad yn dod i ben. Bydd angen ichi lenwi’r ffurflen a’i dychwelyd i’r DVLA. Efallai y bydd angen i chi anfon llun ar yr arddull basbort newydd gyda’ch cais.
Mae angen ichi sicrhau bod gan y DVLA eich manylion diweddaraf.
Bydd y DVLA yn anfon ffurflen gais ichi 90 diwrnod gwaith cyn bod cyfnod eich gwaharddiad yn dod i ben. Hon fydd ffurflen D1 ar gyfer trwyddedau car a beic modur, a ffurflen D2 ar gyfer trwyddedau bws, coets a lori.
Os na chewch eich ffurflen adnewyddu trwy’r post bydd angen ichi archebu un gan wasanaeth archebu ffurflen ar-lein y DVLA.
Cyn eich bod yn cael eich trwydded yn ôl mae’n rhaid ichi gael archwiliad meddygol gydag un o feddygon penodedig y DVLA i brofi eich bod yn ffit i yrru. Bydd yr archwiliad yn cynnwys:
Bydd yn rhaid ichi dalu am eich archwiliad meddygol.
Gallwch lawrlwytho’r daflen i gael rhagor o wybodaeth ynghylch gwneud cais ar ôl cael eich gwahardd oherwydd trosedd yfed a gyrru.
Lawrlwytho ‘Sut i ymgeisio am eich trwydded yrru ar ôl cael eich gwahardd oherwydd yfed a gyrru’ (PDF)
Bydd y DVLA yn dychwelyd eich trwydded pan ddaw cyfnod eich gwaharddiad i ben.