Mae’n rhaid i chi gael eich atgyfeirio gan lys i gymryd rhan mewn Cynllun DDR ac i gael gostyngiad yn y gwaharddiad rhag gyrru.
Bydd pob llys yn ymdrechu i anfon eich gwaith papur i ni o fewn 14 diwrnod, fodd bynnag ar adegau prysur gall hyn gymryd hyd at oddeutu pedair wythnos i’w wneud.
Os nad ydych wedi clywed gennym o fewn tair wythnos o ddyddiad eich ymddangosiad yn y llys, cysylltwch â ni a byddwn yn edrych i mewn i’r mater. Cofiwch os nad ydych wedi clywed gennym mae’n rhaid i chi gysylltu â ni – ni allwn eich helpu os nad oes gennym gofnod o’ch atgyfeiriad.
Strwythurwyd cwrs DRA IAM o gwmpas gwaith a gweithgareddau grŵp, ni fydd rhaid i chi sefyll a siarad am eich profiadau.
Strwythurwyd y Cwrs DDR DRA IAM yn y fath ffordd y cyfrifir am bob munud. Dylid osgoi bod yn hwyr am y cwrs gan y gallai olygu’ch bod yn cael eich bwrw allan o’r cwrs.
Gallwch, fodd bynnag dylech gysylltu â’r tîm gweinyddu i gael gwybodaeth lawn ar hyn.
Gallwch, byddwn yn hapus i’ch cynorthwyo gyda’ch trosglwyddiad i’ch darparwr dethol newydd. Bydd angen i chi gysylltu â’r tîm gweinyddu i sicrhau y gallwn gynnal eich cais.
Nac ydyn; mae pob un o’r darparwyr cyrsiau DDRS achrededig yn annibynnol, bydd angen i chi gysylltu â’r tîm gweinyddu a fydd yn hapus i drafod y broses hon gyda chi.
Mae gan bob un o’n lleoliadau fynediad da ac ni ddylent achosi problemau i chi, fodd bynnag rydym yn argymell eich bod yn trafod unrhyw anghenion arbennig gyda’r tîm pan ydych yn trefnu’ch cwrs.
Na fydd yn sicr; mae pob un o’n darparwyr yn brofedig mewn cynorthwyo pobl gyda gwahanol fathau o alluoedd dysgu a byddant yn ceisio rhoi cymaint o gymorth ag sydd ei angen arnoch gyda’r lleiafswm o ffwdan. Mae ond angen i chi egluro’ch anghenion neilltuol pan ydych yn trefnu’r cwrs a byddwn ni’n gwneud y gweddill.
Mae’n wir fod y cwrs yn golygu bod angen i chi gael lefel sylfaenol o Saesneg, mae hyn er mwyn i chi ddeall a dilyn y cwrs. Fodd bynnag, byddwn yn caniatáu i chi ddod â chyfieithydd ar y pryd neu ffrind gyda chi os ydynt yn rhugl yn y ddwy iaith. Rhowch wybod i ni cyn i chi drefnu’ch cwrs fel y gallwn sicrhau ein bod yn caniatáu lle ychwanegol yn y dosbarth.
Os oes angen i chi gael gwasanaethau cyfieithydd ar y pryd neu ffrind, eich cyfrifoldeb chi yw gwneud y trefniadau a thalu am unrhyw gostau ariannol.
Gallwch; gallwn ddarparu system ddolen porthadwy i’w defnyddio yn yr ystafell ddosbarth, fodd bynnag os byddai’n well gennych ddod â chyfieithydd ar y pryd gyda chi gallwch wneud hynny, y cyfan rydym yn ei ofyn yw eich bod yn rhoi gwybod i ni pan ydych yn trefnu fel y gallwn sicrhau ein bod yn caniatáu lle ychwanegol yn y dosbarth.
Os oes angen i chi gael gwasanaethau cyfieithydd ar y pryd neu ffrind, eich cyfrifoldeb chi yw gwneud y trefniadau a thalu am unrhyw gostau ariannol.
Fel eich darparwr cwrs dethol mae gofyn i ni anfon Hysbysiad o Beidio â Chwblhau i chi os nad ydych wedi cwblhau cwrs cyn bod eich dyddiad cwblhau wedi mynd heibio.
Mae’n golygu eich bod wedi mynd heibio i’r dyddiad a ganiateir i gwblhau cwrs ac na fydd hawl gennych bellach i gael gostyngiad ar eich gwaharddiad. Bellach ni allwch ymgymryd â chwrs DDRS. Bydd cyfnod llawn eich gwaharddiad yn sefyll nawr.
Na allwch; mae’r dyddiad cwblhau’n sefydlog ac ni ellir ei newid naill ai gan y llys cyhoeddi neu ddarparwr y cwrs. Mae’n aros yn gyfrifoldeb i chi i ymgymryd â chwrs mewn da bryd i chi gwblhau pob un o dri diwrnod y cwrs cyn y dyddiad cwblhau.
Os y’ch dynodir dan y Cynllun Adsefydlu Yfed a Gyrru fel ‘Troseddwr Risg Uchel’, bydd angen i chi gael prawf meddygol cyn y gellir dychwelyd eich trwydded i chi.
Mae ‘Troseddwr Risg Uchel’ yn golygu rhywun a ‘Fethodd â darparu sampl i’w dadansoddi heb achos rhesymol’, neu rywun a oedd â darlleniad alcohol mwy nag 87.5 microgram/100 ml o Anadl, 200 miligram/100 ml o Waed, 267.5 miligram/100 ml o Wrin neu’n olaf rhywun sydd wedi’i wahardd ar ddau achlysur gwahanol o fewn cyfnod o ddeng mlynedd oherwydd unrhyw ddigwyddiad Yfed a Gyrru.