Mae IAM RoadSmart yn brif elusen diogelwch ar y ffyrdd ym Mhrydain ac mae ganddynt dros 50 mlynedd o brofiad o wneud y ffyrdd yn le diogelach trwy wella safonau gyrru a reidio. Ni oedd y cyntaf i gyflwyno’r Prawf Gyrru Uwch, felly rydym yn gwybod beth sy’n gwneud gyrrwr gwell ac mwy diogel.
Mae’r IAM RoadSmart Drink Drive Rehabilitation Course (DDRC) ar gyfer gyrwyr sydd wedi yfed a gyrru a gyfeiriwyd atom gan lys ac fe’i cyflenwir gan IAM RoadSmart Driver Retraining Academy (IAM RoadSmart DRA). Bydd yn eich helpu i ddeall peryglon alcohol, nid yn unig mewn perthynas â gyrru, ond hefyd i’ch iechyd a bywyd
yn gyffredinol.
Rydych yn siwr o gytuno bod cost ddynol i’ch gwaharddiad, yn ogystal â’r gwarth a’r cywilydd sy’n dod yn ei sgîl. Trwy’r wybodaeth a’r cyngor a ddarperir yn sesiynau rhyngweithiol y cwrs, byddwch yn deall yn well yr effaith a gaiff alcohol ar eich gyrru, eich corff, eich bywyd a sut mae’n effeithio ar eich teulu, eich ffrindiau a’ch gwaith.
Ar ddiwedd y cwrs, gallwch wneud cais i leihau’ch gwaharddiad (fel rheol hyd at 25%), felly’r gwir amdani yw ei bod yn werth cymryd rhan!